Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 19 Medi 2017
Amser:
08.30 -
08.53
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC (Cadeirydd) Jane Hutt AC Paul Davies AC Rhun ap Iorwerth AC Gareth Bennett AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Rhuanedd Richards, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Cytunodd y Rheolwyr Busnes trwy e-bost yn ystod toriad yr haf ar gofnodion y cyfarfod ar 18 Gorffennaf.
Dydd Mawrth
· Hysbysodd Jane Hutt y Pwyllgor fod pedwar datganiad wedi cael eu hychwanegu at agenda'r Cyfarfod Llawn heddiw:
- Datganiad gan y Prif Weinidog: Ffyniant i Bawb - Y Strategaeth i Gymru (60 Munud)
- Datganiad gan y Prif Weinidog: Bil yr UE (Ymadael) (45 munud)
- Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol: Brexit a Thegwch o ran Symudiad Pobl (30 Munud)
- Datganiad gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Cynllun Cyflawni ar Reoli Tybaco 2017-2020 (30 Munud)
· Byddai'r Cyfnod Pleidleisio yn cael ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes.
Dydd Mercher
· Cytunodd y Rheolwyr Busnes y byddai'r Cyfnod Pleidleisio yn cael ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Nododd y Rheolwyr Busnes hefyd lythyrau gan Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip a Chadeirydd y Pwyllgor Cyllid, a chytunwyd i'r cynnig i dreialu dadl ar ddatganiad ar gyfer cyflwyno'r gyllideb ddrafft. Fel yn achos y treial ar gynnig deddfwriaethol Llywodraeth Cymru, rhywbeth sy'n digwydd unwaith yn unig fydd y treial hwn a bydd angen newid y Rheolau Sefydlog er mwyn gwneud unrhyw newid parhaol. Bydd y Rheolwyr Busnes yn adolygu'r ddwy weithdrefn yn ystod yr hydref fel rhan o'r adolygiad ehangach o ddiwygiadau'r Cyfarfod Llawn.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 27 Hydref 2017 -
· Cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 26 mewn perthynas â Biliau Pwyllgorau (5 munud)
· Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog 11, 12 a 13 mewn perthynas â Deddf Cymru 2017 ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru (5 munud)
· Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad 01-17 i'r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 22.9 (15 munud)
Dydd Mercher 4 Hydref 2017 -
· Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid: Cyflwyno Bil a gynigir gan Bwyllgor - Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) (30 munud)
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Cymunedau yn Gyntaf – yr hyn a ddysgwyd (60 munud)
·
Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas
Unedig (60 munud)
Dydd Mercher 11 Hydref 2017 -
· Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Tawelu'r traffig: effaith tagfeydd ar wasanaethau bysiau (60 munud)
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar y goblygiadau i borthladdoedd Cymru o adael yr Undeb Ewropeaidd (60 munud)
Ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Cyllid, cytunodd y Rheolwyr Busnes ar yr amserlen a ganlyn ar gyfer ystyried cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru:
|
Dyddiad
|
Gosod cynigion amlinellol ar gyfer cyllideb y Llywodraeth
|
3 Hydref 2017 |
Gosod cynigion manwl ar gyfer cyllideb y Llywodraeth |
24 Hydref 2017 |
Y dyddiad cau i'r Pwyllgor Cyllid gyflwyno adroddiad ar gynigion amlinellol cyllideb y Llywodraeth
|
28 Tachwedd 2017 |
Y dyddiad cau i'r pwyllgorau eraill gwblhau eu hystyriaeth o'r cynigion manwl ar gyfer y gyllideb
|
28 Tachwedd 2017 |
Cyflwyno cynnig y gyllideb flynyddol
|
19 Rhagfyr 2017 |
Trafododd y Rheolwyr Busnes bapur gan y Llywodraeth ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael).
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol er mwyn craffu arno. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylai’r Pwyllgorau gyflwyno adroddiad ar y Memorandwm erbyn dydd Iau 26 Hydref. Mae Llywodraeth Cymru o'r farn ei bod yn rhy gynnar i gynnig dyddiad ar gyfer dadl ynghylch y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Cyfarfod Llawn. Nododd y Rheolwyr Busnes y gallai fod Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol atodol yn dibynnu ar hynt y Bil yn San Steffan.
Trafododd y Rheolwyr Busnes bapur gan y Llywodraeth ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â'r Bil Seilwaith Telathrebu (Rhyddhad rhag Ardrethi Annomestig).
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol i Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau er mwyn craffu arno. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad ar y Memorandwm erbyn dydd Iau 12 Hydref.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar yr adroddiad yn nodi'r newidiadau arfaethedig i'r Rheolau Sefydlog mewn perthynas â Deddf Cymru 2017 ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Cytunodd y Pwyllgor y dylid gosod yr adroddiad y diwrnod canlynol, ochr yn ochr â chynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog, i'w ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher nesaf.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar yr adroddiad yn nodi'r newidiadau arfaethedig i'r Rheolau Sefydlog mewn perthynas â Biliau Pwyllgorau. Cytunodd y Pwyllgor y dylid gosod yr adroddiad y diwrnod canlynol, ochr yn ochr â chynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog, i'w ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher nesaf.
Trafododd y Pwyllgor Busnes yr amserlen arfaethedig ar gyfer ystyried y Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) gan y Cynulliad a’r posibilrwydd o wrthdaro â’r amserlen ar gyfer y Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru). Ar y sail fod y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol wedi nodi y byddai’n gallu ymgymryd â’r gwaith o graffu ar y Bil hwnnw, cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylid cyfeirio’r Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) at y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes hefyd mai 9 Mawrth 2018 yw'r terfyn amser ar gyfer adroddiad y Pwyllgor ar y Bil yng Nghyfnod 1, ac mai 18 Mai 2018 yw'r terfyn amser ar hyn o bryd ar gyfer cwblhau trafodion y Pwyllgor yng Nghyfnod 2.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gais gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau i aelodau'r Pwyllgor gael eu hesgusodi o'r Cyfarfod Llawn ar ôl 17.45 ddydd Mawrth 4 Hydref 2017 i gynnal cyfarfodydd ym Mrwsel.